Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon  

Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a materion polisi, yn cynnwys y meysydd a ganlyn (ymysg meysydd eraill): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Cyfrifoldeb

Ysgrifennydd y Cabinet neu’r Gweinidog perthnasol

Goruchwylio'r holl agweddau ar gyflawni a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru o ddydd i ddydd, gan gynnwys: perfformiad yn unol â thargedau sydd wedi'u hamlinellu yn Fframwaith Canlyniadau a Chyflawni y GIG, ac sy'n cynnwys mesurau ansawdd, amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, canser, cardiaidd, oedi wrth drosglwyddo gofal, damweiniau ac achosion brys, amseroedd ymateb ambiwlansys, dangosyddion iechyd meddwl ac iechyd y cyhoedd;

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Pob agwedd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru, gan gynnwys contractau gyda gweithwyr proffesiynol y prif gontractwr gofal sylfaenol, ac eithrio (i) goruchwylio’r proffesiynau meddygol; (ii) polisi ar eni plant ar ran pobl eraill, senotrawsblannu, embryoleg a geneteg ddynol; a (iii) trwyddedu meddyginiaethau (nid yw'r materion hyn wedi'u datganoli)

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyflawni'r mesurau canlyniadau newydd

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cynlluniau cyflawni

 

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Craffu ar berfformiad sefydliadau'r GIG yn unol â’u cynlluniau tair blynedd (Cynlluniau Tymor Canolig Integredig)

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Goruchwylio'r gweithdrefnau uwchgyfeirio yn y GIG

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Y taliadau a godir am wasanaethau'r GIG, gan gynnwys taliadau am bresgripsiynau a gwasanaethau deintyddol, offthalmig ac optegol

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Darparu gwasanaethau yng Nghymru i bobl â salwch meddwl

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Derbyn adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ymateb iddynt a’u cyfarwyddo

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Goruchwylio gweithgareddau Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Ymchwil a Datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Addysg feddygol ôl-radd.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Polisi a goruchwylio holl weithgareddau’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru o ran gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau statudol

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Polisi ar ofal yn y gymuned

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Goruchwylio Cyngor Gofal Cymru

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rheoleiddio lleoliadau preswyl a gofal cartref i oedolion, gofal maeth, darpariaeth gofal i blant dan 8 oed a gofal iechyd preifat yng Nghymru

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Arolygu'r gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a llunio adroddiadau am yr arolygiadau hynny (drwy Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru), gan gynnwys adolygiadau ar y cyd o wasanaethau cymdeithasol ac ymateb i adroddiadau

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bil Iechyd y Cyhoedd Cymru

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Pob agwedd ar iechyd y cyhoedd a diogelu iechyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd a fflworeiddio dŵr yfed

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Strategaeth a pholisi cenedlaethol ar gyfer chwaraeon cymunedol, gweithgareddau corfforol a gweithgareddau hamdden egnïol yng Nghymru, gan gynnwys noddi Cyngor Chwaraeon Cymru

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Hyrwyddo cerdded a beicio, gan gynnwys Deddf Teithio Llesol (Cymru)

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gweithgareddau'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bwyd sydd wedi'i addasu'n enetig (ac eithrio tyfu cnydau sydd wedi'u haddasu'n enetig)

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyfrifoldeb dros wasanaeth iechyd y Gwasanaeth Carchardai, heblaw am gontractau preifat

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Camddefnyddio sylweddau

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Iechyd y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr.

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol